Datganiad hygyrchedd ar gyfer Apply for a Workplace Charging Scheme voucher

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.gov.uk/government/publications/workplace-charging-scheme-application-form.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae'r wefan hefyd wedi'i dylunio i fod yn gydnaws â:

  • chwyddwydrau sgrin system weithredu sylfaenol, megis ZoomText 11
  • meddalwedd adnabod lleferydd, fel Dragon Naturally Speaking

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a chawn weld a allwn eich helpu, neu cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt drwy

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu faterion wrth ddefnyddio ein gwefan neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at contact@dvla.gov.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Compliance status

This website is fully compliant with the Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 AA standard.

This statement was prepared on 4th June 2021 It was last reviewed on 4th June 2021